Shaw Telecommunications
Cwmni telathrebu a TG ddwyeithog lleol Aberystwyth.
Wedi ei seilio yn Aberystwyth ag yn gweithio ar draws llawer o Ganolbarth Cymru, yn cynnwys Machynlleth, Dolgellau, Tywyn, Llanidloes, Llambed, Aberaeron ac Aberteifi.
Prif Wasanaethau
Rydym yn darparu gwasanaethau wedi’w prisio yn gystadleuol ar gyfer cwsmeriaid busnes a preswyl lleol. Wedi hyfforddi gan BT efo dros 40 mlynedd o brofiad yn y sector Telathrebu / TG. Rydym yn arbenigo mewn gosod a cynnal a chadw systemau teleffon busnes, systemau teledu cylch cyfyng (CCTV), gosod ceblau llais a data (Cat5/6), rhwydweithio data a sefydlu ‘Wifi’. Rydym hefyd yn cynnig amcanbrisiau cystadleuol ar gyfer rhentu llinellau busnes, galwadau, “SIP” a datrysiadau wedi’w lletya.
Dyma restr o’r prif wasanaethau yr ydym yn ei gynnig, fodd bynnag cysylltwch os oes ymholiad gennych am wasanaeth nad ydyw wedi ei restru isod, gallen helpu, neu argymell dewis amgen.
Cysylltwch a peiriannydd ffôn a TG yn Ceredigion
Mae ein manylion cyswllt wedi’u rhestru isod, fel arall llenwch ein ffurflen gyswllt.
-
- Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Ffôn Busnes
- Teleffoni a Gynhelir yn y Cwmwl
- Teleffoni SIP
- Band Eang Busnes
- Gosod Ceblau Data Cat5e / Cat6
- Rhwydweithio Data
- Uwchraddio Cypyrddau Data
- Ffurfweddu Llwybrydd a Switsh
- Gosod / Cynnal a Chadw Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)
- Datrysiadau Wi-Fi
- Wi-Fi Gwestai
- Cysylltiadau Wi-Fi Adeilad i Adeilad (pwynt i bwynt)
- Gosod Starlink
Amdanaf
Wedi’i sefydlu yn 2010, mae Shaw Telecommunications yn darparu gwasanaethau telathrebu a TG i gwsmeriaid busnes a phreswyl yn ardal Aberystwyth a chanolbarth Cymru.
Fe’i sefydlwyd gan John Shaw, cyn-beiriannydd BT gyda dros 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyfathrebu a TG.
“Gwasanaeth gwych. Proffesiynol dros ben, sydyn a prisiau rhesymol. Rwy’n hapus i argymell Shaw Telecommunications.”
“Mae John yn ddibynadwy ac yn wybodus, gall gyflenwi systemau ffôn ac arbed arian i chi ar eich biliau busnes parhaus! Rydym yn hapus iawn gyda’r gwasanaethau y mae John wedi’u darparu i ni.”
“Rydw i wedi defnyddio John fel Peirionnydd Telegyfathrebu ers blynyddoedd. Mae yn wybodus iawn, gellir ymddiried ynddo, a mae safon ei waith heb ei ail. Mae wastad yn ateb ei ffon, ag yn galw’n ol o fewn munudau ag wastad yn hapus i helpu”
“Ardderchog. Argymellir yn ddiamod. Dilyniant i’r achos.”
“Effeithlon, cyfeillgar a prisiau rhesymol iawn. Beth mwy byddai rhywun eisiau?”
“Rwyf wedi defnyddio Shaw Telecommunications sawl gwaith ac wedi canfod eu bod yn broffesiynol, yn ddibynadwy, yn onest ac yn gymwynasgar. Mae John yn beiriannydd o’r radd flaenaf, y gorau yn y gorllewin. Byddwn yn argymell Shaw Telecommunications bob tro.”
Rydym yn darparu nifer o frandiau yn cynnwys NEC, LG, Yeastar, Gamma Horizon, Ubiquiti, DrayTek, TP-Link, Hikvision, Hi-Look & Ezviz ag eraill.
Cysylltwch
Cyfeiriad
Huanfa, Ffordd Penparcau Road,
Southgate, Aberystwyth,
Ceredigion. SY23 1RY.